Allwch chi helpu? Ymchwil S4C

06/12/2011

Gwybodaeth am yr astudiaeth

Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil sy'n edrych ar effaith rhaglenni teledu ar ddatblygiad iaith plant. Rydym yn edrych yn benodol ar raglenni Cymraeg Cyw i geisio darganfod beth yw eu gwir effaith ar ddatblygiad iaith Gymraeg plant.

Pam ein bod yn gofyn i chi gymryd rhan?

Er mwyn cael gwell darlun o beth yw rôl ac effaith rhaglenni Cymraeg yn y cartref, rydym yn gwahodd unrhyw riant sydd â phlentyn rhwng 0-7 mlwydd oed i gymryd rhan. Nid yw'n orfodol eich bod yn gwylio rhaglenni Cymraeg i gymryd rhan yn yr astudiaeth.

I gymryd rhan wrth ateb holiadur byr, dilynwch y ddolen hon - https://www.surveymonkey.com/s/Y73Q35T

Yn ôl