Cystadleuaeth i ennill Blwyddlyfr Cyw

08/11/2011

Dyma'ch cyfle i ennill copi o flwyddlyfr lliwgar newydd Cyw, ewch draw i dudalen Facebook Cyw i weld sut i gystadlu!

http://www.facebook.com/Cywars4c

Rheolau Cystadleuaeth Facebook Cyw

Mae'r amodau a thelerau hyn yn rhan o'r rheolau a nodir yn yr hysbysiad cystadleuaeth sy'n ymwneud â Chystadleuaeth Facebook Cyw - Blwyddlyfr Cyw a gyhoeddwyd ar dudalen Facebook Cyw.

I gystadlu, rhaid i chi:

"Hoffi"'r llun o glawr Blwyddlyfr Cyw ar wal Facebook: facebook.com/cywars4c

Y dyddiad cau yw12pm dydd Llun, 14 Tachwedd.

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ol y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig 13 oed neu'n hÅ·n, ac eithrio staff S4C, Boomerang, Sain, a gwasg y Lolfa, eu teulu agosaf a chwmnïau y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.

Cynigir un copi o Flwyddlyfr Cyw. Mae cyfyngiad i un cais ar gyfer bob cystadleuydd.

Dewisir un enillydd ar hap o blith yr holl enwau sydd wedi "hoffi" llun y llyfrau unigol fydd ar y wal erbyn y dyddiad cau. Bydd penderfyniad S4C ynghylch yr enillwyr yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

Ni fydd angen prynu unrhyw beth i gystadlu.

Caniateir un ymgais fesul unigolyn.

Hysbysir yr enillydd mewn neges i'w cyfrif Facebook, ac ar wal Facebook Cyw ar ôl y dyddiad cau. Bydd y wobr yn cael ei bostio i'r enillwyr.

Ar ôl y dyddiad cau, cyhoeddir enw'r enillydd a'r sir y maent yn byw ynddi ar safle Facebook Cyw; ac adran "Oedolion" gwefan Cyw a s4c.co.uk/cyw/oedolion, a safle Caban gwefan S4C s4c.co.uk/caban am 21 diwrnod neu bydd modd cael y wybodaeth hon trwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C.

Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr:

(a) yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn ei darparu i S4C yn gywir a'u bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth;

(b) yn cytuno ymrwymo i'r amodau a thelerau hyn; ac

(c) yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall S4C ddefnyddio'u henw a'u llun at ddibenion hyrwyddo.

Mae S4C yn cadw'r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddi sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r amodau a thelerau hyn.

Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng Facebook. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.

Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo'r wobr, ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.

Mae S4C yn cadw'r hawl i gyfnewid y wobr neu unrhyw ran ohoni am wobr o'r un gwerth ariannol, neu o werth ariannol uwch, a bydd penderfyniad S4C yn hyn o beth yn derfynol.

Ni fydd S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon ebost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

Rhaid i'r enillydd ddarparu eu cyfeiriad er mwyn derbyn y wobr cyn pen 7 diwrnod ar ôl y dyddiad cau. Os na fydd modd i S4C gysylltu â'r enillydd erbyn y dyddiad hwn trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan S4C i wneud hynny, bydd gan S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau .

Mae S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Mae S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef neu ei bod hi wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r enillydd o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.

Dim ond at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth y bydd S4C/Boomerangyn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill. Bydd S4C/Boomerang yn dinistrio'r holl ddata personol y mae'n meddu arno, ac a gafodd fel rhan o'r ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth, ar ôl i'r gystadleuaeth ddod i ben. Prosesir data personol yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998 ac ni fydd yn cael ei rannu gydag unrhyw drydydd parti heb sicrhau caniatâd ymlaen llaw.

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Trefnir y gystadleuaeth hon gan a'r hyrwyddwr yw S4C o Barc TÅ· Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU, a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141.

Yn ôl