O ddydd Llun 27 Chwefror ymlaen, bydd modd lawr lwytho caneuon o'r gyfres Abadas, gan gynnwys 'Medli yr Abadas' a 'Fi ydy…', am 75c y gân, oddi ar safleoedd iTunes, Amazon MP3, Spotify, Emusic, Music beta, rdio, Verizon Wireless, Rhapsody a Zune.
Cyfres i blant bach yw Abadas, sy'n cynnwys cymeriadau hoffus wedi ei hanimeiddio. Y cymeriadau yw: Hari'r hipo swil; Seren yr ystlum annwyl ac Ela'r llwynog llawen.
Maen nhw'n byw o fewn llyfr lliwgar bachgen o'r enw Ben ac mae'r tri'n dod yn fyw wrth iddo agor y tudalennau - dyma pryd fydd yr hwyl a'r canu yn dechrau.
Cynhyrchir y gyfres gan gwmni Dinamo a Kavaleer, mewn cydweithrediad â S4C, CBeebies a RTE. Cyd-lanswyd y gyfres ar y dair sianel ym mis Hydref 2011 ac yn fuan iawn daeth yn ffefryn ymysg y gwylwyr ifanc.
Roedd ymateb y rheini mor ffafriol penderfynwyd cynnig y caneuon i'w lawr lwytho gan rieni a gwarchodwyr.
