Ap lyfr newydd sbon gan Cyw - Amser Bwyd Bolgi

29/02/2012

Aplyfr Cyw: Amser Bwyd Bolgi

Ci bach direidus yw Bolgi sy'n hoff iawn o'i fwyd. Mae e eisiau bwyd gymaint nes ei fod yn barod i chwarae triciau ar ei ffrindiau wrth newid amser y cloc!

Croeso i ap lyfr diweddaraf Cyw - stori am drafferthion Bolgi gydag amser sydd ar gael i'ch teclyn tabled o'r farchnad aps Android ac ar iTunes.

Gallwch lawrlwytho'r Ap Lyfr yma:

ApLyfr ar gyfer Tabled iPad

ApLyfr ar gyfer Tabled Android

Ynddo bydd cyfle i wrando neu ddarllen y stori, lliwio, chwarae gêm amser, gwneud jig-sô a llu o weithgareddau rhyngweithiol eraill o fewn byd Cyw.

Lawrlwytha Aplyfr Cyw: Amser Bwyd Bolgi nawr er mwyn i ti gael mwynhau'r stori unrhywle, unrhywbryd!

Cynhyrchiad Cube Interactive / Boomerang+ ar gyfer S4/C

Mae eich barn yn bwysig, felly cysylltwch â ni ar y cyfeiriad isod amserbwydbolgi@cubeinteractive.co.uk

Yn ôl