Bydd criw Cyw yn dangos dy luniau, cardiau a chyfarchion ar raglen arbennig - Awr Fawr!
Llun i Gwener o 4:00 i 5:00
Anfona dy luniau, cyfarchion pen-blwydd, cardiau a phob math o waith creu yma i stiwdio Awr Fawr, a byddwn yn eu dangos ar raglen deledu a gwefan Awr Fawr!


Fe alli di wylio rhaglen Awr Fawr ar dy gyfrifiadur nawr!
Beth am anfon cyfarchion neu luniau o dy eisteddfod ysgol, dy barti pen-blwydd, gwyliau neu unrhywbeth wyt ti’n ei wneud?
E-bost:
cyw@s4c.co.uk
Ffôn:
08000 72 78 77
Post:
RHADBOST
Cyw
Facebook:
facebook.com/cywars4c
Twitter:
@CriwCyw

Wyt ti'n barod i hwylio gyda Cyw a'i ffrindiau?
Defnyddia dy wegamera a dy lais i reoli cyflymder y cwch.
Gwaedda a bydda'n swnllyd i symud y cwch. Pob hwyl!

Wyt ti eisiau bod ar y teledu?
Dyma dy gyfle i fod ar Awr Fawr! Wyt ti eisiau bod yn rhan o fideo newydd Cywioci yn canu Cân Diolch?
Clicia yma i wneud fideo ohonot ti’n canu, dawnsio ac ymuno yn yr hwyl!
Nadolig Llawen Cywioci
Gwylio'r fideo

Wyt ti’n barod i ddangos dy dalent?
Fe allai fod unrhyw beth o ddawnsio i ddweud jôc!
Dewch draw i gem gwe-gamera newydd ar lwyfan Awr Fawr i ddangos dy dalent!

Beth am gymryd rhan mewn campau ar wefan Cyw?
Dewch i chwarae "Wyt ti’n gêm?" gyda gwe-gamera i weld pa mor heini ydych chi!

Wyt ti'n dathlu dy ben-blwydd yn fuan?
Neu wyt ti'n nabod rhywun sy'n cael eu pen-blwydd?
Hoffet ti neu dy ffrind gael galwad ffôn gan Gareth, Rachael, Trystan neu Einir?
Rho enw, dyddiad pen-blwydd a rhif ffôn ar ebost i cyw@s4c.co.uk ac efallai fydd un o gyflwynwyr Cyw yn dy ffonio di, brawd, chwaer neu ffrind i ddymuno pen-blwydd hapus!
Mae angen galluogi Javascript i weld yr oriel

Oes gen ti newyddion mawr? Hoffet ti ddweud dy hanes ar Awr Fawr? Dyma dy funud di!
‘Sgwn i os wyt ti wedi gwneud rhywbeth diddorol neu ymweld â rhywle sy’n bwysig i ti? Falle dy fod wedi dringo’r wyddfa, wedi gweld sioe, wedi cystadlu, chwarae dy hoff chwaraeon neu fynd ar wyliau!
Fyddet ti’n hoffi i un o gyflwynwyr Cyw dy ffonio di am sgwrs?
Ebostia: Cyw@s4c.co.uk a rho dy rif ffôn, dy stori a dy enw cyntaf ac efallai bydd Gareth, Rachael, Trystan neu Einir yn dy ffonio di am sgwrs cyn hir!